Betty LewisJONESJONES - BETTY LEWIS. 17 Medi 2016. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yng Nghartref Nyrsio Madog ym Mhorthmadog, yn 94 mlwydd oed, o Manaros, Nefyn. Priod annwyl y diweddar Stanley, mam garedig Maldwyn a mam yng nghyfraith Iona, nain hoffus Eleri, Gerallt a'i briod, Heulwen, hen nain Bethan, Jac, Harri a Daniel. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Isa, Nefyn am 2.00 o'r gloch ar ddydd Iau 29ain o Fedi ar ôl gwasanaeth yn Amlosgfa Bangor am hanner dydd. Dim blodau ond derbynnir rhoddion tuag at Gapel Isa, Nefyn yn ddiolchgar trwy law'r Ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf., Heol Dulyn, Tremadog. Ffôn 01766 512091.
Keep me informed of updates